Dyma atyniad poblogaidd yn nhref farchnad Llangollen a ffordd wyth i brofi Safle Treftadaeth y Byd! Mae Glanfa Llangollen yn gyfle gwych i chi fwynhau taith mewn cwch camlas a dynnir gan geffyl o galon Llangollen – pa un ai ydych chi’n dewis taith 45 munud neu dro hamddenol o ddwy awr at Raeadr y Bedol yn Llandysilio-yn-Iâl!
Fe allwch chi hefyd archebu teithiau cwch modur ar draws Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte neu hurio eich cwch preifat eich hun.
A gan eich bod chi yma yng Nglanfa Llangollen, fedrwch chi ddim mynd adra heb fynd i’r Wharf Tea Room – ystafell de draddodiadol lle cewch chi frecwast, cinio ysgafn, te prynhawn a chacennau.
Lleoliad
Maes parcio agosaf a chod post: Meysydd parcio Llangollen:
Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8SW
Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8PS
Maes Parcio Stryd y Dwyrain, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RB
Maes Parcio Stryd y Felin, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RQ
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Rhiwabon
Tref agosaf: Llangollen